Online Catalogue

Specialists in the supply of official publications and international agency titles

 

Rheolau'r Ffordd Fawr (Welsh Highway Code)

Online Catalogue | TSO Publications | DVSA - Driving Test books | Publications for All Drivers |  Rheolau'r Ffordd Fawr (Welsh Highway Code)


Rheolau'r Ffordd Fawr - rhifyn newydd 2023
Rheolau'r Ffordd Fawr - rhifyn newydd 2023

£4.99
Cadwch yn ddiogel, gwenwch yn si?r eich bod yn ymwybodol o reolau diweddaraf y ffordd, ac osgoi cosbau a dirwyon trwy gael eich copi o'r rhifyn newydd hwn o Reolau'r Ffordd Fawr.

Wedi ei ddiweddaru ar gyfer 2023, mae Rheolau'r Ffordd Fawr yn waith darllen allweddol ar gyfer defnyddwyr ffyrdd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gan ddarparu'r rheolau diweddaraf ar gyfer y ffyrdd ac arwyddion traffig. Mae gan bob defnyddiwr ffordd gyfrifoldeb i gadw ei wybodaeth yn gyfredol, felly gwnewch yn si?r eich bod yn gwneud hynny gyda'r rhifyn diweddaraf o'r canllaw cyfeirio defnyddiol hwn.

Pob dydd, ar gyfartaledd, mae pump o bobl yn cael eu lladd a 60 o bobl yn cael eu hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd. Os ydym am leihau'r ffigurau hyn, mae'n allweddol bod pob defnyddiwr ffordd - gyrwyr, beicwyr modur, beicwyr, marchogwyr a cherddwyr - yn gyfarwydd â'r holl reolau yn Rheolau'r Ffordd Fawr.

Mae Rheolau'r Ffordd Fawr ar gael ar unrhyw ffurf y gallech ddychmygu, ac yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd i adlewyrchu'r newidiadau mewn technoleg, dealltwriaeth a'r gyfraith. Daliwch ati i'w ddarllen - nid yn unig fel gyrrwr sy'n dysgu, ond fel defnyddiwr ffordd gydol oes cyfrifol - er mwyn i ni allu cadw ffyrdd Prydain ymysg y mwyaf diogel yn y byd. 
ISBN
9780115540967
Author
Yr Adran Drafnidiaeth (DfT)/Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau
Published by
TSO (The Stationery Office)
Publication Date
1 June 2023
Edition
2023
Format
Paperback
Extent
180 pages
Dimensions
112 x 210 mm
Language
Cymraeg / Welsh
Approx Weight
0.2 kg
HS Code
490199